Cimwch a draenog y môr Bae Oxwich
Pan fyddwch yn eistedd yn y bwyty ac yn edrych allan ar y môr, cadwch lygad am y cychod pysgota o wahanol liwiau. Un Paul yw’r un coch, un Jim yw’r un glas ac un Kevin yw’r un melyn. Rhyngddyn nhw, maen nhw’n pysgota am gimwch a draenog y môr, ac maen nhw’n cerdded yn syth mewn i’n cegin ni gyda’u pysgod ffres funudau ar ôl neidio allan o’u cychod ac ar y traeth.
Cig oen morfa heli’r Gŵyr
I Hywel, Cig Oen Morfa Heli’r Gŵyr yw’r ‘cig oen gorau yn y byd’. Mae’r ŵyn yn dod o ychydig filltiroedd i ffwrdd ac yn cael eu magu ar arfordir gogleddol y Gŵyr. Mae’r ŵyn yn pori ar weiriau morfa heli, sef llyrlys, suran, Lafant y Môr a Chlustog Fair ar y morfa llanw. Mae hyn yn rhoi blas unigryw i’r cig oen ac mae’n statws gwarchodedig a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Selwyn’s Seafoods
Ar lannau gogledd y Gŵyr, mae’r busnes bach teuluol hwn yn cynhyrchu cynnyrch gwymon, pysgod a physgod cregyn. Mae Selwyn yn cyflenwi’r bara lawr i ni sy’n mynd mewn i’n torthau cartref arbennig.
Towy Valley Fish and Game
Mae Andrew’n rhedeg cwmni helgig a physgod yng Nghaerfyrddin, ac mae’n ein cyflenwi â’r rhan fwyaf o’r cig carw rydyn ni’n ei ddefnyddio yn Beach House, ynghyd ag ychydig o ddraenog y môr.
Cosyn Cymru
Mae Carrie Rimes o Cosyn Cymru yn dod o gartref Hywel sef Bethesda yng Ngogledd Cymru, ac mae’n gwneud y Brefu bach hyfryd sydd ar ein byrddau caws ac yn rhai o’n prydau drwy gydol y flwyddyn.
Ancre Hill Estates
Mae’r ystâd hon yn Sir Fynwy ar gyffiniau Dyffryn Afon Gwy yn cynhyrchu gwin organig a biodeinamig. Rydym yn llawn cyffro i gael gwinoedd mor wych yn cael eu cynhyrchu yma yn Ne Cymru!
Ellis Eggs
Rydym yn cael ein hwyau o’r cynhyrchydd wyau bach o Gydweli, ger Llanelli.
Myrddin Heritage
Mae Owen a Tanya yn Myrddin Heritage yn Sir Gaerfyrddin yn ein cyflenwi â bola mochyn, sydd i’w gael yn nifer o’n prydau drwy gydol y flwyddyn.
Gower PYO
Rydym yn cael mefus, mafon a ffa drwy gydol misoedd yr haf gan Jess yn PYO yn Scurlage ar y Gŵyr.